O na b'ai gwybodaeth Iesu
O na bae gwybodaeth Iesu

(Dymuniad am ledaeniad yr efengyl)
O na b'ai gwybodaeth Iesu
  'N llenwi'r byd i gyd o'r bron,
Yn toi'r ddaear oll o ddeutu,
  Pawb yn syrthio ger ei fron:
Gras fy Iôr, - dyfnfaith 'stor,
Lanwo'r byd o fôr i fôr.

O na ddeuai'r dyddiau dedwydd
  I deyrnasoedd daear lawr,
Wir adnabod Crist yr Arglwydd,
  Plygu i'r Messiah mawr:
Pawb yn llu, - o'r un tu,
'N molianu Iesu cu.

Dyna'r pryd y derfydd rhagfarn
  Gan Gristnogion ar y llawr,
Enwau gweigion wedi'u llyngcu
  Yn y gwerthfawr enw mawr;
Dydd sy'n d'od,
    cenir clod
Iesu'n unig dan y rhod.

Iuddewon a'r chenhedloedd luoedd,
  Fel ar dân yn d'od yn nghyd,
Gan ddyrchafu bawb ar gyhoedd
  'R hwn fu farw dros y byd:
Hyfryd wawr, - dyna'r awr
Bydd hi'n nefoedd ar y llawr.

            - - - - -
(Efengyl yn toi'r Ddaear)
O na bae gwybodaeth Iesu
  'N llenwi'r byd i gyd o'r bron,
Yn toi'r ddaear oll oddeutu,
  Pawb yn syrthio ger ei fron!
Gras fy Ior, dyfnfaith 'stôr,
Fo'n ymdaenu o fôr i fôr.

Yr Iuddewon a'r Cenhedloedd
  'Fel dau dân fo'n d'od yn nghyd,
Gan ddyrchafu (bawb ar gyhoedd)
  'Rhwn fu farw dros y byd:
Hyfryd wawr, dyna'r awr
Bydd hi'n nefoedd ar y llawr.
John Thomas 1730-1804?

Tôn [8787.336]: Holstein (J C Bach 1642-1703)

gwelir:
  Aros Iesu yn y rhyfel
  Mawr yw'r hiraeth sy'n fy nghalon
  O na ddeuai'r dyddiau dedwydd

(Desire for the spread of the gospel)
O that the knowledge of Jesus would be
  Filling all the world completely,
Roofing the earth all around,
  Everyone falling before him:
The grace of my Lord - a deep, vast store,
May it fill the world from sea to sea.

O that the happy days would come
  For the kingdoms of earth below,
Truly to know Christ the Lord,
  Bowing to the great Messiah:
Everyone as a host, - on the same side,
Praising dear Jesus.

That is the time prejudice will cease
  By Christians on the earth,
Empty names having been swallowed
  In the great, precious name;
A day which is coming,
    for the praise to be sung
  Of Jesus only under the sky.

Jews and the gentile hosts,
  As if on fire, coming together,
With everyone exalting publicly
  Him who died for the world:
A delightful dawn, - that is the hour
When it will be heaven on the earth.

                - - - - -
(The Gospel roofing the Earth)
O na bae gwybodaeth Iesu
  'N llenwi'r byd i gyd o'r bron,
Yn toi'r ddaear oll oddeutu,
  Pawb yn syrthio ger ei fron!
Gras fy Ior, dyfnfaith 'stôr,
Fo'n ymdaenu o fôr i fôr.

Yr Iuddewon a'r Cenhedloedd
  'Fel dau dân fo'n d'od yn nghyd,
Gan ddyrchafu (bawb ar gyhoedd)
  'Rhwn fu farw dros y byd:
Hyfryd wawr, dyna'r awr
Bydd hi'n nefoedd ar y llawr.
tr. 2016,17 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~